|
Rhif y ddeiseb: P-06-1332 Teitl y ddeiseb: Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod. Geiriad y ddeiseb: Mae feirws brech y gwiwerod yn cael ei gario a’i ledaenu gan wiwerod llwyd. Nid yw’r feirws yn eu niweidio nhw. O gael eu heintio, mae gwiwerod coch yn datblygu briwiau agored dros eu croen ac yn dioddef marwolaeth boenus o fewn pythefnos. Yng ngogledd Cymru, collwyd rhwng 70 a 80 y cant o wiwerod coch Gwynedd mewn brigiad o achosion yn 2020/21: https://theconversation.com/squirrelpox-outbreak-detected-in-north-wales-without-a-vaccine-the-disease-will-keep-decimating-red-squirrels-196811 Daeth cyllid Sefydliad Moredun ar gyfer ymchwil addawol i frechlyn i ben. Mae Cynllun Diogelu’r Gwiwerod Coch yng Nghymru (tudalen 9) yn dangos bod y rhan fwyaf o wiwerod coch Cymru mewn coedwigoedd lle mae gwiwerod llwyd hefyd yn byw. Golyga hyn fod feirws y frech yn fygythiad mawr yng Nghymru. https://cdn.cyfoethnaturiol.cymru/media/691093/cym-cynllun-diogelu-r-wiwer-goch-yng-nghymru.pdf?mode=pad&rnd=132272074460000000 Ym Mangor, cafwyd nifer o achosion o feirws brech y gwiwerod yn y cyfnod 2017-2022. Daethpwyd ar draws cyrff gwiwerod coch mewn coetir ger Pont Britannia a Phont Grog Telford. Yn hwyr neu’n hwyrach, bydd yr haint yn croesi’r Fenai a lledaenu i Ynys Môn. Mae’r ynys yn gartref i boblogaeth fwyaf Cymru o’r gwiwerod coch. Mae'r haint yn achosi symptomau erchyll: http://www.britishredsquirrel.org/red-squirrels/disease/ Mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu ymchwil, megis yr ymchwil ohiriedig i frechlyn gan Moredun/Wildlife Ark Trust: https://www.dailyrecord.co.uk/news/local-news/red-squirrel-vaccine-under-threat-2540293 |
Roedd gwiwerod coch unwaith yn gyffredin ledled Cymru. Fodd bynnag, mae poblogaethau'r DU wedi dioddef gostyngiadau sylweddol yn dilyn rhyddhau a lledaenu gwiwer lwyd Gogledd America yn y 19eg canrif. Mae hyn oherwydd lledaeniad y clefyd (feirws brech y gwiwerod yn bennaf) a chystadleuaeth am adnoddau.
Yn ôl yr Ymddiriedolaethau Natur, ymhen tua 150 mlynedd, mae gwiwerod coch wedi gostwng o tua 3.5 miliwn i 140,000 ledled y DU. Yn 2020 rhyddhaodd y Gymdeithas Mamaliaid Rhestr Goch ar gyfer Mamaliaid Prydeinig (Saesneg yn unig), gan amlygu'r rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl. Mae’r wiwer goch yn cael ei dosbarthu fel un 'Mewn Perygl' ac mae'n un o'r 19 o rywogaethau yr ystyrir eu bod mewn perygl o ddiflannu ym Mhrydain.
Mae tair prif boblogaeth gwiwerod coch yng Nghymru ar Ynys Môn, yng Nghoedwig Clocaenog yn y gogledd, a Chlywedog yng nghanolbarth Cymru.
Mae feirws brech y gwiwerod yn cael ei gludo gan y wiwer lwyd ymledol, anfrodorol heb effeithio ar eu hiechyd (mae gwiwerod llwyd wedi datblygu imiwnedd i’r clefyd ar ôl bod yn agored i’r feirws ers canrifoedd), ond mae’n angheuol i wiwerod coch. Cafodd yr achos cyntaf o frech y gwiwerod ei ganfod mewn gwiwer goch yn Norfolk ym 1980, ond mae’n bosibl bod y feirws wedi bod yn bresennol, ond heb ei ganfod, yn y boblogaeth ers nifer o flynyddoedd. Erbyn 2018, roedd 525 o achosion wedi'u canfod ledled y DU.
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn nodi bod astudiaethau diweddar wedi dangos bod hyd at 100 y cant o wiwerod llwyd mewn ardal yn gallu bod yn cario’r feirws. Amcangyfrifir fod y dirywiad ym mhoblogaeth gwiwerod coch 17 i 25 gwaith yn uwch mewn ardaloedd lle mae’r feirws yn bresennol mewn gwiwerod llwyd (o gymharu â chystadleuaeth gan wiwerod llwyd yn unig). Dangosodd astudiaeth o boblogaeth gogledd Gwynedd fod y clefyd yn 2020/21 wedi achosi colled o 70 y cant i 80 y cant o boblogaeth ei gwiwerod coch.
Ymhlith y bygythiadau eraill i wiwerod coch mae ysglyfaethu gan gathod a chŵn domestig, lladd ar y ffyrdd a cholli a darnio cynefinoedd. Mae ymwybyddiaeth gynyddol o ymddangosiad risgiau clefydau eraill. Yn benodol, mae adenofeirws wedi'i gofnodi mewn gwiwerod coch marw mewn lleoliadau ledled y DU.
Ychydig flynyddoedd yn ôl dechreuodd Sefydliad Moredun ei waith ar frechlyn ar gyfer brech y gwiwerod. Darparodd elusen Wildlife Ark Trust gyllid ar gyfer rhaglen datblygu brechlyn brech y gwiwerod. Roedd cyllid annigonol yn golygu bod y gwaith ymchwil hwn wedi dod i ben.
Ymhlith yr heriau wrth ddatblygu'r brechlyn roedd nodi ffurfiau amddiffynnol o'r feirws ar gyfer datblygu brechlyn a dod o hyd i ffyrdd o ddosbarthu'r brechlyn. Y mecanwaith dosbarthu delfrydol yw drwy’r geg, fel y gellir cynnwys y brechlyn mewn ffynonellau bwyd. Dywedodd Athrofa Moredun er bod brechlynnau drwy’r geg yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer rhai rhywogaethau bywyd gwyllt, er enghraifft brechlynnau’r gynddaredd ar gyfer llwynogod yn yr UE, mae brechlynnau drwy’r geg yn peri heriau biolegol a logistaidd. Dywedodd Dr Colin McInnes, a arweiniodd y rhaglen ymchwil wreiddiol, fod rhywfaint o waith i'w wneud eto.
Dywedodd Dr Craig Shuttleworth, o Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru o’r holl fentrau cadwraeth presennol, mae’n ystyried y gwaith ymchwil i frechlyn brech y gwiwerod fel yr un sydd fwyaf tebygol o achub y wiwer goch. Amcangyfrifodd Dr Shuttleworth fod twristiaid sy'n dod i weld y wiwer goch ar Ynys Môn yn werth tua £1 miliwn y flwyddyn ar hyn o bryd ac ychwanegodd "Beth am y gwerth lles?"
Mae’r Cynllun Cadwraeth Gwiwerod Coch i Gymru a luniwyd yn 2018, ac a baratowyd gan Fforwm Gwiwerod Cymru (sy’n cynnwys sefydliadau statudol, anstatudol a grwpiau gwiwerod lleol) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu a bennwyd yn 2009 (Atodiad 2). Cam gweithredu 5.4 (tudalen 26) yw “Research into squirrelpox virus” a ddisgrifir fel “Promote the need for funding into squirrelpox virus research and vaccine development, and facilitate co-operation between the relevant departments of the different UK administrations”. Mae'n amlygu cyllid i gefnogi gwaith ymchwil fel cyfyngiad.
Yn 2015, dywedodd George Eustice, Gweinidog DEFRA, wrth Senedd y DU fod Defra yn cyfrannu cyfanswm o £50,000 rhwng 2014 a 2016 i’r gwaith ymchwil i frechlyn brech y gwiwerod a fydd yn helpu i sicrhau dyfodol hirdymor gwiwerod coch yn y DU.
Trafodwyd y mater yn Senedd yr Alban yn 2013. Dywedodd Paul Wheelhouse, Gweinidog yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd (ar y pryd), wrth y Senedd fod Scottish Natural Heritage (SNH) (ar y pryd) wedi cyfrannu cyllid i Sefydliad Ymchwil Moredun i ddatblygu’r brechlyn. Aeth ymlaen i ddweud:
The institute has costed the next phase of further exploring attenuation and dosage at approximately £160,000. It is likely that the cost of developing and trialling a vaccine for use in the field would be a further £500,000 and that it would take five to 10 years. The trials will also require wild-caught red squirrels.
The Scottish Government and SNH have not yet been approached for funding for the next phase of the trial.
Mae rheoli fector allweddol brech y gwiwerod, y wiwer lwyd, wedi helpu i fynd i’r afael â brech y gwiwerod mewn gwiwerod coch mewn rhai ardaloedd.
Mae Cynllun Cadwraeth Gwiwerod Coch i GymruFforwm Gwiwerod Cymru a Chynllun Gweithredu Cymru i Reoli’r Wiwer Lwyd Llywodraeth Cymru yn disgrifio gwahanol ddulliau, gan gynnwys difa, rheoli ffrwythlondeb gwiwerod llwyd ac adfer ysglyfaethwyr naturiol, gan gynnwys bele’r coed.
Diogelwch cyfreithiol ar gyfer gwiwerod coch a rheoli gwiwerod llwyd
Mae gwiwerod coch yn cael eu hamddiffyn yn y DU o dan Ddeddf Bywyd a Chefn Gwlad 1981. Mae gwiwerod llwyd wedi’u rhestru yn Atodlen 9 i’r Ddeddf hon, sy’n ei gwneud yn anghyfreithlon i ryddhau gwiwer lwyd neu ganiatáu iddi ddianc.
Mae gwiwerod coch ar restr o rywogaethau Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac yn cael eu hystyried “o’r pwysigrwydd pennaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth” yng Nghymru. O dan y Ddeddf rhaid i Weinidogion Cymru “[g]ymryd pob cam rhesymol er mwyn cynnal a gwella’r organeddau byw” ar y rhestr honno ac “annog eraill i gymryd camau o’r fath”.
Mae
Rheoliad yr UE (UE) Rhif 1143/2014
ar Atal a Rheoli Cyflwyno a Lledaenu Rhywogaethau Estron
Goresgynnol (Rheoliad
IAS) yn ei gwneud yn ofynnol i restr o rywogaethau estron
goresgynnol sy'n peri pryder i'r Undeb gael ei llunio. Rhaid i
Aelod-wladwriaethau roi mesurau rheoli ar waith ar gyfer difa,
rheoli neu gyfyngu ar rywogaethau rhestredig. Mae gwiwerod llwyd ar
y rhestr o
Rywogaethau Estron Goresgynnol
sy'n peri pryder i'r Undeb. Mae
Cynllun gweithredu Cymru i
reoli’r wiwer lwyd gan Lywodraeth Cymru
yn mynd i’r afael â
gofynion y Rheoliad IAS mewn nod i reoli gwiwerod llwyd.
Mae Cynllun Gweithredu Cymru i Reoli’r Wiwer Lwyd - Llywodraeth Cymru (2018) yn anelu at ddatblygu dull integredig o reoli gwiwerod llwyd a bodloni rhwymedigaethau o dan Reoliadau Rhywogaethau Estron Goresgynnol (IAS). Fforwm Gwiwerod Cymru yw’r grŵp llywio sy’n cydgysylltu, cefnogi a rhoi cyngor ar y Cynllun Gweithredu.
Nod Cynllun Gweithredu Adfer Natur CymruLlywodraeth Cymru yw “gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, oherwydd bod iddi werth cynhenid, a sicrhau budd sy'n para i'r gymdeithas.” Mae Cynllun 2020-21 yn rhestru Cynllun Cadwraeth Gwiwerod Coch Fforwm Gwiwerod Cymru fel rhaglen o dan yr amcan “Cynnal a gwella rhywogaethau sydd o'r pwys mwyaf i Gymru oherwydd eu gwerth cynhenid a sicrhau cadernid ecosystemau”.
Bu dwy ddeiseb gan y Senedd i ddiogelu poblogaethau gwiwerod coch yn y blynyddoedd diwethaf, ond nid oeddent yn ymwneud yn benodol â brechlyn brech y gwiwerod:
§ P-06-1208 ‘Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth’ (a gwblhawyd yn 2022); a
§ P-06-1225 ‘Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru orfod cynnal a chyhoeddi arolygon bywyd gwyllt blynyddol cyn cwympo coetir’ (a gwblhawyd yn 2022).
Yn 2021, cyhoeddodd y Senedd 'argyfwng natur'. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth o’r dirywiadau mewn bioamrywiaeth a achoswyd gan bobl. Gwnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i:
§ gyflwyno gofyniad sy’n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol; a
§ deddfu i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |